Mae bys Mari Ann wedi gwywo,
A Dafydd y gwas ddim yn iach;
Mae'r Baban yn y crud yn crio,
A'r gath wedi scrapo Johnny bach
Sospan fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi scrapo Johnny bach.
Dai bach yn sowldiwr,
|: Dai bach yn sowldiwr,

A chwt i grys e' mas.
2. Mae bys Mari Ann wedi gwella,
A Dafydd y gwas yn ei fedd;
Mae'r baban yn y crud wedi tyfu,
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Sospan fach yn berwi ar y tân
Sosban fawr yn berwi ar y llawr
A'r gath wedi huno mewn hedd.
Dai bach yn sowldiwr,
|: Dai bach yn sowldiwr,

A chwt i grys e' mas.